Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (58)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 mins) Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 mins) |
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ymgysylltiad cyflogwyr â Sgiliau (30 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Strategaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru (30 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) (60 munud) |
6. Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) (60 munud) NDM4959 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru). Gosodwyd Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2011; Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth 2012. Dogfennau Ategol
|
7. Dadl ar Strategaeth Cymru ar y newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf (60 munud) NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: (a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf; a (b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Gallwch weld Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
Llywodraeth Cymru | Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd :
Adroddiad cynnydd blynyddol cyntaf Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder: a) bod y duedd mewn allyriadau Nwyon Ty Gwydr 1990/2009 yn yr adroddiad yn awgrymu na chyrhaeddir y targed o sicrhau gostyngiad o 40 y cant; a b) mai ar hyn o bryd, dim ond o ganlyniad i’r dirywiad economaidd y mae’n bosibl cyflawni’r targed o 3 y cant o ostyngiad blynyddol. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Ty Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau digonol i gyrraedd ei tharged allyriadau 3 y cant. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon ty gwydr. |
Cyfnod Pleidleisio
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 25 Ebrill 2012